Mae’n bleser gan FMG dderbyn dyfarniad contract o bwys i ddarparu gwasanaethau adfer cerbydau i Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent. Mae’r contract hwn yn cynnwys adfer cerbydau sydd wedi cael eu gyrru heb yswiriant, sydd wedi’u dwyn, sy’n gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y ffordd neu â throsedd.
Mae’r contract a’r gwasanaeth newydd yn dechrau ar 1 Ebrill 2021 am gyfnod o 3 + 1 o flynyddoedd.
Bellach, rydym ni’n recriwtio rhwydwaith o Gwmnïoedd Adfer Cerbydau sy’n briodol gymwys i adfer a storio cerbydau ar ran y tri Heddlu hwn. Rydym yn gwahodd yr holl bartion â diddordeb i gwblhau’r Ffurflen Gais ar gyfer Cynlluniau’r Heddlu isod. Dylid dychwelyd y ffurflen i FMG yn SchemeInfo@fmg.com erbyn canol dydd, ddydd Llun 1 Chwefror 2021.
Gwahoddiad FMG i Ddarparwyr Wneud Cais am Gontract Adfer
Gwneud cais